Hi, you are logged in as , if you are not , please click here
You are shopping as , if this is not your email, please click here

Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith / Mindful Self-Care at Work

""

£200.00

Description

Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith: rhaglen chwe wythnos
Mindful Self-Care at Work: A Six-Week Programme

Detailed Description

Ydych chi'n gweithio mewn amgylchedd dwys iawn? Mae'r rhaglen chwe wythnos Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio i'ch helpu i ymdopi â gofynion a heriau unigryw gweithle dwys iawn gyda mwy o sefydlogrwydd, effeithiolrwydd a charedigrwydd. Bydd cyfranogwyr yn dysgu arferion ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi syml ond pwerus sy'n gwella hunan-reoleiddio ac yn meithrin hunan-dosturi, gan eich galluogi i fod yn fwy tosturiol tuag atoch chi'ch hun ac eraill.

Mae'r rhaglen yn dyfnhau dealltwriaeth cyfranogwyr o ffisioleg straen, yn eich helpu i adnabod patrymau meddwl sy'n cynnal ac yn cynyddu straen, ac yn cyflwyno ffyrdd medrus, tosturiol o ymateb i bwysau yn y gweithle. Trwy atal chwythu plwc, gall y cwrs hwn fod yn sylfaen ar gyfer hunanofal gydol oes. Mae natur strwythuredig y cwrs, ynghyd ag arweiniad athrawes/athro profiadol a chefnogaeth cyd-gyfranogwyr, yn creu amgylchedd amhrisiadwy ar gyfer dysgu, magu hyder, a datblygu arferion sy’n gwella lles.

Mae'r rhaglen chwe wythnos Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio'n benodol i’r rhai sy'n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn, dan gyfyngiadau amser. Mae'n adeiladu ymwybyddiaeth ac yn cryfhau'r gallu i adnabod straen ynddoch chi’ch hun, mewn eraill, ac yn systemau'r gweithle. 

Mae'r cwrs yn cyflwyno modelau damcaniaethol allweddol, gan gynnwys ffisioleg straen a seicoleg, therapi gwybyddol wedi’i seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar, a hyfforddiant meddwl tosturiol, gan hefyd archwilio'r rhesymau pam y gallai'r rhai mewn proffesiynau gofal brofi chwythu plwc.
Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu ag arferion sy'n gwella ffocws, sefydlogrwydd a hunandosturi, gan eu helpu i ailgysylltu â'r hyn sydd bwysicaf yn eu gwaith. Mae'r egni newydd hwn nid yn unig yn cefnogi lles personol ond hefyd yn cyfrannu at ddiwylliant gweithle iachach a mwy cynaliadwy.

I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn, gan gynnwys gofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, lleoliadau cyfreithiol, a sefydliadau trydydd sector. Os yw eich swydd yn cynnwys sefyllfaoedd pwysau uchel a gofynion emosiynol, bydd y rhaglen hon yn dysgu ffyrdd ymarferol i chi i wella gwytnwch a lles.

Pam astudio’r cwrs?

Mae'r Rhaglen Hunanofal Ystyriol wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi gweithwyr proffesiynol mewn gweithleoedd heriol. Trwy'r cwrs hwn, byddwch yn:

  • Cael dealltwriaeth ddyfnach o straen a chwythu plwc a sut maent yn effeithio ar les.
  • Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi i ymateb yn fwy effeithiol i heriau yn y gweithle.
  • Dysgu technegau ymarferol i wella ffocws, sefydlogrwydd emosiynol, a hunan-dosturi.
  • Ailgysylltu â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn eich gwaith, gan feithrin egni a chymhelliant o’r newydd.
  • Symud y tu hwnt i ymdopi yn unig, ac yn hytrach, meithrin agwedd iachach a mwy cynaliadwy at eich bywyd proffesiynol.

Nid yw'r cwrs hwn yn ymwneud â rheoli straen yn unig - mae'n ymwneud â ffynnu yn eich swydd a chael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?

Cyflwynir y cwrs byr hwn ar-lein dros chwe wythnos, trwy sesiynau 75 munud o hyd ar ddydd Iau.

Bydd y cwrs nesaf yn cychwyn ar ddydd Iau 16 Ebrill ac yn rhedeg hyd at ddydd Iau 25 Mai 2026,

4.45pm tan 6pm.

Tiwtoriau

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan un o’n tiwtoriaid ymwybyddiaeth ofalgar arbenigol: Sarah Millband, Christina Shennan, neu Phoebe Roman. Mae pob un o’n tiwtoriaid yn ymarferwyr ymwybyddiaeth ofalgar hyfforddedig a phrofiadol iawn, gydag arbenigedd helaeth mewn cefnogi unigolion sy’n gweithio mewn amgylcheddau dwys iawn.

Mae Sarah Millband yn seicotherapydd, yn athrawes ymwybyddiaeth ofalgar, yn hyfforddwr ac yn oruchwyliwr. Mae’n addysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion, myfyrwyr meddygaeth a staff clinigol ac yn y sector gwirfoddol i staff a gwirfoddolwyr, i ofalwyr a thrwy bartneriaethau presgripsiynu cymdeithasol. Mae Sarah yn byw yn Ne Cymru ac yn dysgu’r Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Christina yn diwtor ar y radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP), Prifysgol Bangor ac mae’n dysgu Rhaglen Hunanofal Ymwybyddiaeth Ofalgar i’r Brifysgol. Mae'n gweithio fel seicotherapydd ac athrawes ymwybyddiaeth ofalgar mewn Gwasanaethau Seicolegol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ym maes oncoleg. Mae gan Christina brofiad helaeth o gefnogi staff a gofalwyr, yn enwedig ym maes oncoleg, ac mae’n arwain gweithdai sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i weithwyr iechyd proffesiynol.

Mae Phoebe wedi gweithio yng ngwasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers 1989. Mae’n arwain y modiwl Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Therapi Ymddygiad Dialectig ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n athrawes ac yn oruchwyliwr cyrsiau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys trwy raglenni ymwybyddiaeth ofalgar.

///////////////////////////////////////////////////////

About This Course

Are you working in a high-intensity environment? The Mindful Self-Care six-week programme is designed to help you navigate the unique demands and challenges of a high-intensity workplace with greater steadiness, effectiveness, and kindness. Participants will learn simple yet powerful mindfulness and compassion practices that enhance self-regulation and cultivate self-compassion, enabling you to be more wisely compassionate towards yourself and others.

The programme deepens participants’ understanding of stress physiology, helps you recognise thinking patterns that sustain and amplify stress, and introduces skillful, compassionate ways to respond to workplace pressures. By preventing burnout, this course can serve as a foundation for lifelong self-care. The structured nature of the course, along with the guidance of an experienced teacher and the support of fellow participants, creates an invaluable environment for learning, building confidence, and developing practices that enhance well-being.

The Mindful Self-Care six-week programme is specifically designed for those working in high-intensity, time-pressured environments. It builds awareness and strengthens the ability to recognise stress in oneself, in others, and within workplace systems. The course introduces key theoretical models, including stress physiology and psychology, mindfulness-based cognitive therapy, and compassionate mind training, while also exploring the reasons why those in caring professions may experience burnout.

Participants will engage with practices that enhance focus, steadiness, and self-compassion, helping them reconnect with what is most important in their work. This renewed energy not only supports personal well-being but also contributes to a healthier, more sustainable workplace culture.

Who is this course for?

This course is designed for professionals working in high-intensity environments, including healthcare, education, social care, legal settings, and third-sector organisations. If your role involves high-pressure situations and emotional demands, this programme will provide you with practical tools to enhance resilience and well-being.

Why study this course?

The Mindful Self-Care Programme is specifically designed to support professionals in demanding workplaces. Through this course, you will:

  • Gain a deeper understanding of stress and burnout and how they impact well-being.
  • Develop mindfulness and compassion-based skills to respond more effectively to workplace challenges.
  • Learn practical techniques to improve focus, emotional steadiness, and self-compassion.
  • Reconnect with what truly matters in your work, fostering renewed energy and motivation.
  • Move beyond simply coping and instead cultivate a healthier, more sustainable approach to your professional life.

    This course is not just about managing stress—it’s about thriving in your role and making a positive impact on your workplace.

How long does this course take to complete?

This short course runs over six weeks, with a 75-minute online session every Thursday.

The next course will run from Thursday 16 April to Thursday 25 May 2026, 4.45pm to 6pm.

Tutors

This course will be delivered by one of our expert mindfulness tutors: Sarah Millband, Christina Shennan, or Phoebe Roman. All of our tutors are highly trained and experienced mindfulness practitioners, with extensive expertise in supporting individuals working in high-intensity environments.

Sarah Millband is a psychotherapist, mindfulness teacher, trainer and supervisor. She teaches mindfulness within the NHS for patients, medical students and clinical staff and in the voluntary sector for staff and volunteers, for carers and through social prescribing partnerships. Sarah lives in South Wales and teaches the Mindful Self Care Programme in health and social care settings for the Centre for Mindfulness Research and Practice at Bangor University.

Christina is a tutor on the Masters in Mindfulness Based Approaches at the Centre for Mindfulness Research and Practice (CMRP), Bangor University and teaches the Mindful Self Care Programme for the University. She works as a psychotherapist and mindfulness teacher in Psychological Services in the NHS and in the oncology field. Christina has extensive experience of supporting staff and carers, especially in the oncology field, and leads mindfulness-based workshops for health professionals.

Phoebe has worked in NHS secondary mental health care services since 1989. She leads the Mindfulness in Dialectical Behaviour Therapy module at Bangor University and is a teacher and supervisor of mindfulness-based courses. She has extensive experience of supporting staff in the NHS including through mindfulness based programmes.