Ieithoedd i pawb - Tsieinëeg (Mandarin) / Languages for All Chinese (Mandarin) (Tymor 1 / Semester 1 2025/2026)![]() DescriptionMae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau gyda’r nos mewn tair iaith:
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr sydd am adnewyddu sgiliau iaith sydd wedi darfod neu barhau o astudiaethau TGAU/UG. Mae dysgu iaith yn weithgaredd pleserus a heriol, ac yn eich annog i ehangu eich gorwelion, agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol. Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Gallwch ddarganfod mwy am y lefelau gwahanol yma. Bydd y modiwlau ar gael ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol o’r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau’r modiwl. Cynhelir cyrsiau yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn – os bydd cyrsiau’n orlawn, bydd cofrestru’n cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran lleiaf yw 18. Cam 1. Talu am y cwrs hwn (dyddiad cau: 14 Tachwedd 2025) Cam 2. Ar ôl i chi dalu am y cwrs hwn, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau pellach ar sut i gael mynediad i’r cwrs drwy ein porth dysgu ar-lein. Peidiwch â chysylltu â ni cyn y dyddiad hwn gan na fydd y cwrs ar gael.
/////////////////////////////////////////////////// Languages for All offers a range of evening classes in Three languages: Language learning is both enjoyable and challenging, and will encourage you to broaden your horizons, open doors to other cultures and widen your social circle. The classes are designed to cater for a variety of levels - from absolute beginners (A1) to advanced learners (B1) seeking to develop their language skills. Find out more about the different levels here. The modules will be in audit mode only – that means there will be no formal assessment of the module and no credits will be awarded on completion of the module. *Courses run subject to minimum numbers. Some courses are very popular - in cases where courses are over-subscribed, we will operate enrolment on a first-come-first-served basis. The minimum age is 18. Step 1. Pay for this course (closing date: 14th November 2025) Step 2. After you have paid for this course, you will receive an Email with further joining instructions on how to access the course through our online learning portal. Please do not contact us before this date as the course won’t be available. Aelod o’r Gymuned /Member of the CommunityAelod o’r Gymuned sy’n Gymwys i Gael Gostyngiad / Community Member Eligible for a ConcessionFyfyriwr Newydd ym Mhrifysgol Bangor /New Bangor University StudentFyfyriwr sy’n Dychwelyd i Brifysgol Bangor /Current Bangor University StudentRwy’n Aelod o Staff Prifysgol Bangor / Bangor University Staff Member |